Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 196(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2015 Rhif (Cy. )

gofal cymdeithasol, cymru

Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adrannau 166 i 169 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol.

Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r gofynion i bob Bwrdd Iechyd Lleol a’r awdurdodau lleol o fewn ardal pob Bwrdd Iechyd Lleol gymryd rhan mewn trefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni swyddogaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol penodedig; mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth, ymhlith pethau eraill, ar gyfer gweithredu a rheoli’r trefniadau partneriaeth, sefydlu byrddau partneriaeth rhanbarthol a sefydlu a chynnal cronfeydd cyfun.

Mae rheoliadau 2 i 8 yn disgrifio’r Byrddau Iechyd Lleol a’r awdurdodau lleol sydd i gymryd rhan yn y trefniadau partneriaeth. Maent hefyd yn ei gwneud yn ofynnol bod saith bwrdd partneriaeth rhanbarthol yn cael eu sefydlu ac yn ei gwneud yn ofynnol bod y trefniadau partneriaeth yn cael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol penodedig.

Mae rheoliad 9 ac Atodlen 1 yn disgrifio swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol sydd i gael eu cyflawni gan y trefniadau partneriaeth.

Mae rheoliadau 10, 11 a 12 yn darparu ar gyfer amcanion y byrddau partneriaeth rhanbarthol, ynghyd â’r gofynion o ran aelodaeth ac adrodd.

Mae rheoliad 13 yn darparu ar gyfer rhannu gwybodaeth rhwng cyrff partneriaeth, timau integredig cymorth i deuluoedd a byrddau partneriaeth rhanbarthol.

Mae rheoliad 14 yn galluogi pob corff partneriaeth i ddirprwyo swyddogaethau i gorff partneriaeth arall at ddibenion y trefniadau partneriaeth.

Mae rheoliadau 15 i 18 yn cynnwys darpariaeth benodol mewn perthynas â threfniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni swyddogaethau cymorth i deuluoedd (fel a bennir yn Atodlen 4) ac mewn perthynas â sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd. Bwriad y trefniadau hyn yw darparu parhad â’r trefniadau presennol o dan Ran 3 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Mae rheoliad 19 yn ei gwneud yn ofynnol bod cronfeydd cyfun yn cael eu sefydlu a’u cynnal mewn perthynas â swyddogaethau penodol cyrff partneriaeth.


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 196(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2015 Rhif (Cy. )

gofal cymdeithasol, cymru

 

Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

CYNNWYS

1.       Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

 

BYRDDAU PARTNERIAETH RHANBARTHOL

 

2.       Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gwent

3.       Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gogledd Cymru

4.       Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Caerdydd a’r Fro

5.       Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Bae’r Gorllewin

6.       Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf

7.       Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gorllewin Cymru

 

8.       Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Powys

9.       Swyddogaethau penodedig

10.     Amcanion y byrddau partneriaeth rhanbarthol

11.     Aelodaeth o fyrddau partneriaeth rhanbarthol

12.     Adroddiadau

13.     Rhannu gwybodaeth

14.     Dirprwyo swyddogaethau

 

TIMAU INTEGREDIG CYMORTH I DEULUOEDD

 

15.     Swyddogaethau cymorth i deuluoedd

16.     Sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd

17.     Neilltuo ac arfer swyddogaethau cymorth i deuluoedd

18.     Trefniadau ar gyfer atgyfeirio achosion at y timau integredig cymorth i deuluoedd

CRONFEYDD CYFUN

 

19.     Sefydlu a chynnal cronfeydd cyfun

Atodlen 1

Y swyddogaethau sydd i’w cyflawni gan drefniadau partneriaeth

Atodlen 2

Swyddogaethau cymorth i deuluoedd

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 166(1)(b), (2) i (5), 167(3) a 168(1) a (2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014([1]).

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 196(6) o’r Ddeddf honno ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad ganddo.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015.

(2) (a) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016 ac eithrio is-baragraff (a) o reoliad 19(1);

(b)     daw is-baragraff (a) o reoliad 19(1) i rym ar 6 Ebrill 2018.

(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(4) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “byrddau partneriaeth rhanbarthol” (“regional partnership boards”) yw’r byrddau y mae’n ofynnol iddynt gael eu sefydlu gan gyrff partneriaeth yn unol â rheoliadau 2 i 8;

“cyrff partneriaeth” (“partnership bodies”) yw’r cyrff hynny y mae’n ofynnol iddynt ymrwymo i gytundebau partneriaeth gan reoliadau 2 i 8;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

ystyr “swyddogaethau cymorth i deuluoedd” (“family support functions”) yw’r swyddogaethau a bennir yn rheoliad 15;

ystyr “swyddogaethau penodedig” (“specified functions”) yw’r swyddogaethau a bennir yn rheoliad 9;

ystyr “trefniadau partneriaeth” (“partnership arrangements”) yw’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan gyrff partneriaeth yn unol â rheoliadau 2 i 8.

 

Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol

Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gwent

2.(1)(1) Rhaid i drefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau penodedig gael eu gwneud gan y cyrff a ganlyn—

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Cyngor Sir Fynwy

Cyngor Dinas Casnewydd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

(2) Rhaid i’r byrddau hyn, gyda’i gilydd, sefydlu bwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn, a’i enw fydd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gwent.

(3) Rhaid i’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gwent.

Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gogledd Cymru

3.(1)(1) Rhaid i drefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau penodedig gael eu gwneud gan y cyrff a ganlyn—

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cyngor Sir y Fflint

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cyngor Sir Ynys Môn

Cyngor Sir Gwynedd

Cyngor Sir Ddinbych

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

(2) Rhaid i’r byrddau hyn, gyda’i gilydd, sefydlu bwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn, a’i enw fydd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gogledd Cymru.

(3) Rhaid i’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gogledd Cymru.

Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Caerdydd a’r Fro

4.(1)(1) Rhaid i drefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau penodedig gael eu gwneud gan y cyrff a ganlyn—

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Cyngor Dinas a Sir Caerdydd

Cyngor Bro Morgannwg.

(2) Rhaid i’r byrddau hyn, gyda’i gilydd, sefydlu bwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn, a’i enw fydd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Caerdydd a’r Fro.

(3) Rhaid i’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Caerdydd a’r Fro.

Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Bae’r Gorllewin

5.(1)(1) Rhaid i drefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau penodedig gael eu gwneud gan y cyrff a ganlyn—

Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Cyngor Dinas a Sir Abertawe

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

(2) Rhaid i’r byrddau hyn, gyda’i gilydd, sefydlu bwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn, a’i enw fydd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Bae’r Gorllewin.

(3) Rhaid i’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Bae’r Gorllewin.

Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf

6.(1)(1) Rhaid i drefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau penodedig gael eu gwneud gan y cyrff a ganlyn—

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

(2) Rhaid i’r byrddau hyn, gyda’i gilydd, sefydlu bwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn, a’i enw fydd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf.

(3) Rhaid i’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf.

Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gorllewin Cymru

7.(1)(1) Rhaid i drefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau penodedig gael eu gwneud gan y cyrff a ganlyn—

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Cyngor Sir Penfro

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyngor Sir Ceredigion.

(2) Rhaid i’r cyrff hyn, gyda’i gilydd, sefydlu bwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn, a’i enw fydd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gorllewin Cymru.

(3) Rhaid i’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gorllewin Cymru.

Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Powys

8.(1)(1) Rhaid i drefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau penodedig gael eu gwneud gan y cyrff a ganlyn—

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Cyngor Sir Powys.

(2) Rhaid i’r cyrff hyn, gyda’i gilydd, sefydlu bwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn, a’i enw fydd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Powys.

(3) Rhaid i’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Powys.

Swyddogaethau penodedig

9. Y swyddogaethau sydd i’w cyflawni yn unol â’r trefniadau partneriaeth yw’r swyddogaethau a ddisgrifir yn Atodlen 1.

Amcanion y byrddau partneriaeth rhanbarthol

10. Amcanion bwrdd partneriaeth rhanbarthol yw—

(a)     sicrhau bod y cyrff partneriaeth yn gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol i—

                            (i)    ymateb i’r asesiad o’r boblogaeth a gynhaliwyd yn unol ag adran 14 o’r Ddeddf, a

                          (ii)    gweithredu’r cynlluniau ar gyfer pob un o’r ardaloedd awdurdod lleol a gwmpesir gan y bwrdd y mae’n ofynnol i bob un o’r awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd lleol eu llunio a’u cyhoeddi o dan adran 14A o’r Ddeddf([2]);

(b)     sicrhau bod y cyrff partneriaeth yn darparu adnoddau digonol ar gyfer y trefniadau partneriaeth, yn unol â’u pwerau o dan adran 167 o’r Ddeddf;

(c)     hyrwyddo sefydlu cronfeydd cyfun lle y bo’n briodol.

Aelodaeth o fyrddau partneriaeth rhanbarthol

11.(1)(1) Rhaid i aelodaeth bwrdd partneriaeth rhanbarthol gynnwys y canlynol—

(a)     o leiaf un aelod etholedig o awdurdod lleol a sefydlodd y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;

(b)     o leiaf un aelod o Fwrdd Iechyd Lleol a sefydlodd y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;

(c)     y person a benodwyd yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol o dan adran 144 o’r Ddeddf mewn cysylltiad â phob awdurdod lleol a sefydlodd y bwrdd partneriaeth rhanbarthol, neu ei gynrychiolydd enwebedig;

(d)     cynrychiolydd i’r Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlodd y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;

(e)     dau berson sy’n cynrychioli buddiannau sefydliadau’r trydydd sector yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;

(f)      o leiaf un person sy’n cynrychioli buddiannau darparwyr gofal yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;

(g)     un person i gynrychioli pobl y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;.

(h)     un person i gynrychioli gofalwyr([3]) yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol.

(2) Caiff bwrdd partneriaeth rhanbarthol gyfethol unrhyw bersonau eraill y mae’n meddwl eu bod yn briodol i fod yn aelodau o’r bwrdd.

(3) Caiff y cyrff partneriaeth dalu taliadau cydnabyddiaeth ariannol a lwfansau i aelodau byrddau partneriaeth rhanbarthol.

(4) At ddibenion y rheoliad hwn—

ystyr “darparwr gofal” (“care provider”) yw person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000([4]) mewn cysylltiad â sefydliad neu asiantaeth (o fewn ystyr y Ddeddf honno);

mae i “sefydliad trydydd sector” (“third sector organisation”) yr un ystyr ag yn adran 16(2) o’r Ddeddf.

Adroddiadau

12.(1)(1) Rhaid i fyrddau partneriaeth rhanbarthol lunio adroddiad ar y graddau y mae amcanion y bwrdd yn rheoliad 10 wedi eu cyflawni a rhaid iddynt gyflwyno’r adroddiad hwn i Weinidogion Cymru.

(2) Rhaid llunio a chyflwyno’r adroddiad cyntaf erbyn 1 Ebrill 2017.

(3) Rhaid llunio a chyflwyno’r adroddiadau yn flynyddol wedi hynny.

Rhannu gwybodaeth

13.(1)(1) At ddibenion cyflawni’r swyddogaethau sy’n cael eu cyflawni gan y trefniadau partneriaeth, rhaid i gorff partneriaeth rannu gwybodaeth—

(a)     ag unrhyw un neu ragor o’r cyrff partneriaeth eraill;

(b)     â’r bwrdd partneriaeth rhanbarthol.

(2) At ddiben cyflawni’r swyddogaethau cymorth i deuluoedd penodedig, rhaid i dîm integredig cymorth i deuluoedd rannu gwybodaeth—

(a)     ag unrhyw un neu ragor o’r cyrff partneriaeth;

(b)     â’r bwrdd partneriaeth rhanbarthol.

(3) At ddibenion cyflawni ei amcanion, rhaid i fwrdd partneriaeth rhanbarthol rannu gwybodaeth ag unrhyw un neu ragor o’r cyrff partneriaeth.

(4) Nid yw’r ddyletswydd ym mharagraffau (1), (2) neu (3) yn gymwys os yw’n anghydnaws ag unrhyw un neu ragor o ddyletswyddau eraill y corff, gan gynnwys ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Diogelu Data 1998([5]) a Deddf Hawliau Dynol 1998([6]).

Dirprwyo swyddogaethau

14.(1)(1) Caiff awdurdod lleol gyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau penodedig ar ran unrhyw un neu ragor o’r cyrff partneriaeth eraill sy’n cymryd rhan yn yr un trefniadau partneriaeth.

(2) Caiff Bwrdd Iechyd Lleol gyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau awdurdod lleol penodedig a ddisgrifir yn Nhabl 1 o Atodlen 1 ar ran unrhyw un neu ragor o’r awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan yn yr un trefniadau partneriaeth.

 

Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd

Swyddogaethau cymorth i deuluoedd

15. Y swyddogaethau cymorth i deuluoedd yw’r swyddogaethau sydd wedi eu pennu yn Atodlen 2.

Sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd

16.(1)(1) Rhaid i’r cyrff partneriaeth ar gyfer pob un o’r trefniadau partneriaeth sefydlu tîm at ddiben arfer swyddogaethau cymorth i deuluoedd.

(2) Enw tîm a sefydlir o dan y rheoliad hwn fydd tîm integredig cymorth i deuluoedd.

(3) Caiff y cyrff partneriaeth neilltuo swyddogaethau cymorth i deuluoedd i’r tîm integredig cymorth i deuluoedd.

(4) Rhaid i dîm integredig cymorth i deuluoedd gynnwys staff sydd â’r sgiliau a’r profiad addas gan roi sylw—

(a)     i’r categorïau o achosion y gellir eu hatgyfeirio ato, a

(b)     i’r angen am gymorth gweinyddol ar staff proffesiynol.

Neilltuo ac arfer swyddogaethau cymorth i deuluoedd

17.(1)(1) Rhaid i dîm integredig cymorth i deuluoedd gyflawni’r swyddogaethau cymorth i deuluoedd sydd wedi eu neilltuo iddo.

(2) Mae swyddogaethau tîm integredig cymorth i deuluoedd i gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd y bwrdd partneriaeth rhanbarthol.

(3) Mae swyddogaethau cymorth i deuluoedd tîm integredig cymorth i deuluoedd i gael eu cyflawni mewn cysylltiad â theulu a atgyfeirir ato gan yr awdurdod lleol.

(4) Mae swyddogaeth a arferir o dan y Rheoliadau hyn yn arferadwy ar yr un pryd gan y tîm integredig cymorth i deuluoedd a chan y corff y rhoddir y swyddogaeth iddo.

Trefniadau ar gyfer atgyfeirio achosion at y timau integredig cymorth i deuluoedd

18.(1)(1) Caiff corff partneriaeth atgyfeirio teulu at dîm integredig cymorth i deuluoedd os yw yn rhesymol yn credu neu’n amau—

(a)     bod rhiant plentyn yn y teulu hwnnw (neu ddarpar riant)—

                            (i)    yn ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau,

                          (ii)    yn ddioddefwr trais domestig neu gam-drin domestig,

                        (iii)    â hanes o ymddwyn yn dreisgar neu’n gamdriniol, neu

                        (iv)    ag anhwylder meddwl; a

(b)     o ganlyniad i un neu ragor o’r amgylchiadau hyn, bod y plentyn, neu y bydd y plentyn, yn blentyn y mae angen gofal a chymorth arno a naill ai—

                            (i)    na fydd y plentyn yn gallu aros gyda’r teulu os na ddarperir gwasanaethau cymorth i deuluoedd,

                          (ii)    pan fo’r plentyn yn derbyn gofal, na fydd y plentyn yn gallu dychwelyd i fyw gyda’r teulu os na ddarperir gwasanaethau cymorth i deuluoedd, neu

                        (iii)    bod y plentyn, neu y bydd y plentyn, yn wynebu risg o gael ei gam-drin, ei esgeuluso neu ei niweidio mewn modd arall os na ddarperir gwasanaethau cymorth i deuluoedd.

(2) Rhaid i atgyfeiriad at dîm integredig cymorth i deuluoedd gael ei wneud yn unol â gweithdrefn atgyfeirio y cytunir arni gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol.

(3) At ddibenion y rheoliad hwn, mae “teulu” (“family”) yn cynnwys pob un o’r canlynol—

(a)     plentyn, rhieni’r plentyn ac, os yw’r awdurdod yn meddwl ei bod yn briodol, unrhyw unigolyn arall sy’n gysylltiedig â’r plentyn neu â’r rhieni;

(b)     unigolion sydd ar fin dod yn rhieni i blentyn ac, os yw’r awdurdod lleol yn meddwl ei bod yn briodol, unrhyw unigolyn arall sy’n gysylltiedig â’r unigolion sydd ar fin dod yn rhieni i’r plentyn hwnnw.

(4) Caiff plentyn y mae arno anghenion am ofal a chymorth gynnwys plentyn sy’n derbyn gofal.

(5) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “anhwylder meddwl” (“mental disorder”) yw unrhyw anhwylder neu anabledd meddwl;

mae “cam-drin” (“abuse”) yn cynnwys gweithgarwch rhywiol heb gydsyniad ac ymddygiad afresymol sy’n debygol o achosi niwed seicolegol difrifol; mae cam-drin yn “cam-drin domestig” (“domestic abuse”) os daw oddi wrth unigolyn sy’n gysylltiedig â’r dioddefwr; ac mae “camdriniol” (“abusive”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

mae i “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yr un ystyr ag yn adran 74 o’r Ddeddf;

ystyr “plentyn y mae arno anghenion am ofal a chymorth” (“child with needs for care and support”) yw plentyn y mae’r awdurdod lleol wedi penderfynu y mae arno anghenion am ofal a chymorth, yn dilyn asesiad o dan adran 21 o’r Ddeddf;

mae “rhiant” (“parent”) mewn perthynas â phlentyn, yn cynnwys unrhyw unigolyn—

(a)     nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu

(b)     sydd â gofal am y plentyn;

ystyr “trais” (“violence”) yw trais neu fygythiadau o drais sy’n debygol o gael eu cyflawni ac mae “treisgar” (“violent”) i’w ddehongli yn unol â hynny; mae trais yn “trais domestig” (“domestic violence”) os daw oddi wrth unigolyn sy’n gysylltiedig â’r dioddefwr.

(6) At ddibenion y diffiniad o “rhiant” (“parent”) ym mharagraff (4)—

(a)     mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr un ystyr ag a roddir i “parental responsibility” yn adran 3 o Ddeddf Plant 1989([7]);

(b)     wrth benderfynu a oes gan unigolyn ofal am blentyn, mae unrhyw absenoldeb o’r plentyn mewn ysbyty, cartref plant neu leoliad maeth ac unrhyw absenoldeb dros dro arall i’w ddiystyru.

 

Cronfeydd Cyfun

Sefydlu a chynnal cronfeydd cyfun

19.(1)(1) Mae’n ofynnol i gyrff partneriaeth pob un o’r trefniadau partneriaeth sefydlu a chynnal cronfeydd cyfun mewn perthynas ag—

(a)     arfer eu swyddogaethau llety cartref gofal;

(b)     arfer eu swyddogaethau cymorth i deuluoedd;

(c)     unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau penodedig y maent yn penderfynu y byddant yn eu harfer ar y cyd o ganlyniad i asesiad a gynhelir o dan adran 14 o’r Ddeddf neu unrhyw gynllun a lunnir o dan adran 14A o’r Ddeddf([8]).

(2) Yn y rheoliad hwn—

mae i “cartref gofal” yr un ystyr ag a roddir i “care home” yn Neddf Safonau Gofal 2000;

ystyr “swyddogaethau llety cartref gofal” (“care home accommodation functions”) yw—

(a)     swyddogaethau awdurdod lleol o dan adrannau 35 ac 36 o’r Ddeddf, pan benderfynwyd diwallu anghenion yr oedolyn drwy ddarparu neu drefnu i ddarparu llety mewn cartref gofal;

(b)     swyddogaethau Bwrdd Iechyd Lleol o dan adran 3 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 mewn perthynas ag oedolyn, mewn achosion—

                            (i)    pan fo gan yr oedolyn angen sylfaenol am ofal iechyd a phenderfynwyd diwallu anghenion yr oedolyn drwy drefnu i ddarparu llety mewn cartref gofal, neu

                          (ii)    pan na fo gan yr oedolyn angen sylfaenol am ofal iechyd ond na ellir diwallu anghenion yr oedolyn ond drwy drefnu gan yr awdurdod lleol i ddarparu llety ynghyd â gofal nyrsio.

 

 

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad

 

                              
               ATODLEN 1            
Rheoliad 9

Y swyddogaethau sydd i’w cyflawni gan drefniadau partneriaeth

 

Tabl 1

Swyddogaethau awdurdodau lleol

Y swyddogaeth

1. Swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol sydd wedi eu cynnwys yn Atodlen 2 i’r Ddeddf, ac eithrio—

(a)     y swyddogaethau yn Rhan 5 o’r Ddeddf (codi ffioedd),

(b)     adran 144 o’r Ddeddf (cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol),

(c)     adrannau 1 a 2 o Ddeddf Mabwysiadu 1976([9]),

(d)     adrannau 114 a 115 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983([10]),

(e)     Rhannau VII i X ac adran 86 o Ddeddf Plant 1989

2. Swyddogaethau o dan adran 7 o Ddeddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986([11])

3. Swyddogaethau darparu cyfleusterau hamdden, neu sicrhau’r ddarpariaeth o gyfleusterau hamdden, o dan adran 19 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976([12])

4. Swyddogaethau awdurdodau tai lleol o dan Ran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996([13]); ac o dan Ran VI o Ddeddf Tai 1996([14]) a Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014([15])

5. Swyddogaethau awdurdodau lleol o dan adran 126 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996

6. Swyddogaethau casglu gwastraff neu waredu gwastraff o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990([16])

7. Swyddogaethau darparu gwasanaethau iechyd yr amgylchedd o dan adrannau 180 a 181 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972([17])

8. Swyddogaethau awdurdodau priffyrdd lleol o dan Ddeddf Priffyrdd 1980([18]) ac adran 39 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988([19])

9. Swyddogaethau o dan adran 63 (trafnidiaeth teithwyr) ac adran 93 (cynlluniau consesiynau teithio) o Ddeddf Trafnidiaeth 1985([20])

 

Tabl 2

Swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol

Y swyddogaeth

Adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal)

Adran 82 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006([21]) (cydweithredu rhwng cyrff GIG ac awdurdodau lleol)

Adran 1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (dyletswydd i hyrwyddo gwasanaeth iechyd)

Adrannau 2 a 3 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (pwerau i ddarparu gwasanaethau iechyd), gan gynnwys gwasanaethau adsefydlu a gwasanaethau sydd â’r bwriad o osgoi derbyn pobl i’r ysbyty ond gan eithrio llawdriniaethau, radiotherapi, terfynu beichiogrwydd, endosgopi, defnyddio triniaethau laser Dosbarth 4 a thriniaethau mewnwthiol eraill a gwasanaethau ambiwlans brys

Adran 10(1), (2), (3), (4) a (5) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (trefniadau gyda chyrff eraill)

Adran 38(6) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (dyletswydd i roi ar gael wasanaethau a ddarperir gan berson a gyflogir yn y gwasanaeth iechyd er mwyn galluogi awdurdodau lleol i gyflawni swyddogaethau)

                              
                  ATODLEN 2        
Rheoliad 15

Swyddogaethau cymorth i deuluoedd

Tabl 1

Swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas â phlant

Y swyddogaeth

Rhychwant

Rhannau 3 a 4 o’r Ddeddf (asesu a diwallu anghenion am ofal a chymorth)

I’r graddau y maent yn ymwneud â diwallu anghenion plant sydd wedi cael eu hasesu o dan adran 21 o’r Ddeddf fel rhai sydd ag anghenion am ofal a chymorth ac ar gyfer eu teuluoedd.

Adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal)

 

Tabl 2

Swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas ag oedolion

Y swyddogaeth

Rhychwant

Rhannau 3 a 4 o’r Ddeddf (asesu a diwallu anghenion am ofal a chymorth)

I’r graddau y maent yn ymwneud â diwallu anghenion personau sydd dros 18 oed ac sydd wedi cael eu hasesu o dan adran 19 o’r Ddeddf fel rhai sydd ag anghenion am ofal a chymorth oherwydd eu bod yn ddibynnol ar alcohol neu ar gyffuriau, neu oherwydd eu bod yn ddioddefwyr trais domestig neu gam-drin domestig, oherwydd bod ganddynt hanes o ymddwyn yn dreisgar neu’n gamdriniol neu oherwydd bod ganddynt anhwylder meddwl.

Adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal)

 

Tabl 3

Swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol mewn perthynas â phlant

Y swyddogaeth

Rhychwant

Adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal)

I’r graddau y maent yn ymwneud â’r ddarpariaeth o wasanaethau neu gyfleusterau iechyd i blant, neu driniaeth i blant, sydd wedi cael eu hasesu o dan adran 21 o’r Ddeddf fel rhai sydd ag anghenion am ofal a chymorth, gan gynnwys asesu’r angen am wasanaethau neu gyfleusterau o’r fath.

Adran 82 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (cydweithredu rhwng cyrff GIG ac awdurdodau lleol)

Adran 1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (dyletswydd i hyrwyddo gwasanaeth iechyd)

Adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (pwerau cyffredinol)

Adran 3(1)(c),(d), (e) ac (f) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (darparu gwasanaethau penodol)

Adran 10(1), (2), (3), (4) a (5) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (trefniadau gyda chyrff eraill)

Adran 38(6) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (dyletswydd i roi ar gael wasanaethau a ddarperir gan berson a gyflogir yn y gwasanaeth iechyd er mwyn galluogi awdurdodau lleol i gyflawni swyddogaethau)

 

Tabl 4

Swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol mewn perthynas ag oedolion

Y swyddogaeth

Rhychwant

Adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal)

I’r graddau y maent yn ymwneud â’r ddarpariaeth o wasanaethau neu gyfleusterau iechyd i bobl, neu driniaeth i bobl, sy’n ddibynnol ar alcohol neu ar gyffuriau, neu sy’n ddioddefwyr trais domestig neu gam-drin domestig, sydd â hanes o ymddwyn yn dreisgar neu’n gamdriniol neu sydd ag anhwylder meddwl, i gynnwys asesu’r angen am wasanaethau neu driniaeth o’r fath.

Adran 82 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (cydweithredu rhwng cyrff GIG ac awdurdodau lleol)

Adran 1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (dyletswydd i hyrwyddo gwasanaeth iechyd)

Adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (pwerau cyffredinol)

Adran 3(1)(c),(d), (e) ac (f) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (darparu gwasanaethau penodol)

Adran 10(1), (2), (3), (4) a (5) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (trefniadau gyda chyrff eraill)

Adran 38(6) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (dyletswydd i roi ar gael wasanaethau a ddarperir gan berson a gyflogir yn y gwasanaeth iechyd er mwyn galluogi awdurdodau lleol i gyflawni swyddogaethau)

 



([1])   2014 dccc 4.

([2])   Mewnosodwyd adran 14A i’r Ddeddf gan adran 46 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) a pharagraff 34 o Atodlen 4 iddi.

([3])   Diffinnir “gofalwr” yn adran 3(4) o’r Ddeddf.

([4])   2000 p. 14.

([5])   1998 p. 29.

([6])   1998 p. 42.

([7])   1989 p. 41.

([8])   Gweler y troednodyn i reoliad 10(a)(ii).

([9])   1976 p. 36.

([10]) 1983 p. 20.

([11]) 1986 p. 33.

([12]) 1976 p. 57.

([13]) 1996 p. 53.

([14]) 1996 p. 52.

([15]) 2014 dccc 7.

([16]) 1990 p. 43.

([17]) 1972 p. 70.

([18]) 1980 p. 66.

([19]) 1988 p. 52.

([20]) 1985 p. 67.

([21]) 2006 p. 43.